Yr wythnos diwetha, trefnodd canolfan iaith Tŷ Newydd wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddathlu bywyd a
gwaith yr awdur, dramodydd a’r scriptiwr, William Samuel Jones, neu Wil Sam fel roedd pawb yn ei adnabod. Llanystumdwy oedd canolbwynt y dathlu, gan mai yno ganwyd Wil Sam, a bu iddo fyw yno ar hyd ei oes.
Ar y nos Iau, teithiais i Amgueddfa Lloyd George i rannu efo’r gynulleidfa ffilmiau a chlipiau teledu o’n casgliadau oedd â chysylltiad â Wil Sam. Dangosais glip o Wil Sam mewn Gwyl Feics yn Efrog o’r rhaglen Hel Straeon, yn ogystal â chlipiau o ffilmiau amatur wedi’u cymryd gan Guto Roberts, oedd yn dangos Wil Sam yn reidio ei fotobeic, ac yn trwsio rhai o’i feics. Ymhlith casgliad o ffilmiau Guto Roberts, roedd hefyd drama fer wedi’i chreu gan Wil Sam, ac yn serenu Meic Povey ifanc.
Dangosais hefyd yr anfarwol Ifas y Tryc, a grewyd gan Wil Sam. Cynhyrchwyd y ffilm gan Taliesin ar gyfer S4C – diolch iddynt am ganiatad i’w ddangos. Mae’r ffilm yn dilyn hynt a helyntion Ifas y Tryc, wedi’i chwarae gan Stewart Jones.
Dyma’r tro cyntaf i rai o’r gynulleidfa weld y ffilm hon, yn enwedig y rhai ifanc. Roedd hi’n grêt gallu gweld eu ymateb i’r ffilm. Mae’n dangos sut mae’r ffilm mor apelgar a doniol heddiw ac yr oedd nôl yn yr 80au!








