You are here: Adref > Blog

Braf oedd gweld 4 cyfweliad arall gan Wales Video Gallery yn cyrraedd yn y post yn ddiweddar – amrywiaeth o bobl Cymreig adnabyddus yn cael eu cyfweld.

Paul Flynn MP

Christopher Brain

John Scott

D. K. Jones

Cofiwch, mae modd i chi ddod fewn i’r Archif i wylio’r deunydd yma, trwy wneud cais am yr eitemau ar ein catalog.



Un o’r pethau sy’n rhoi llawer o fwynhad i mi yn fy ngwaith, yw’r cyfle i fynd allan i gymunedau ar draws Cymru, a thu hwnt, i rannu ein casgliadau. Mae dechrau’r flwyddyn yn dueddol o fod yn amser reit brysur i ni.

The audience at Dyffryn Ardudwy

Nos Iau diwetha, teithiodd Trystan a fi i Ddyfryn Ardudwy, a chynnal noson o ffilmiau a rhaglenni teledu lleol o’r casgliad i Gymdeithas Festri Lawen Horeb. Mynychwyd y noson gan tua 30 o aelodau, a bu i bawb fwynhau gweld hen gymeriadau’r ardal yn dod yn fyw ar y sgrin fawr. Mae hi wastad yn beth braf clywed y gynulleidfa yn ymateb i’r ffilmiau hyn, ac ar ddiwedd y dangosiad, clywais sawl stori ddifyr am y cymeriadau yn y ffilmiau. Diolch i’r gymdeithas am y croeso cynnes, ac am y paned a’r bara brith ar ddiwedd y noson!

 

 

The audience at the Barbican

Nos Sul, 17 Chwefror, aeth John Reed, ein Swyddog Cadwraeth i Lundain ar gyfer dangosiad o’r ffilm The Life Sotry of David Lloyd George. Cynhaliwyd y dangosiad yn y Barbican, a daeth tua 130 o gynulleidfa i weld y ffilm. Roedd Neil Brand, y pianydd, hefyd yn bresennol i chwarae cerddoriaeth byw i’r ffilm fud hon. Mae chwilfrydedd am y ffilm yn amlwg yn parhau, a cynulleidfaoedd yn mwynhau clywed ei hanes unigryw.

Mae’r wythnosau nesaf hefyd yn mynd i fod yn brysur, gyda dangosiadau yn Nolgellau, Penmachno a Groeslon. Digon i’n cadw’n brysur!



Fel arfer mae mis Ionawr yn medru bod yn fis tawel o ran ymholiadau, ond dim felly mae hi leni – mae nhw’n llifo fewn!

Mae’r ymholiadau yn amrywio o unigolion sydd eisiau copïau personol, i ddangosiadau mewn theatrau neu neuaddau, o brosiectau addysgol i geisiadau masnachol ar gyfer rhaglenni teledu ayb.

Dyma enghreifftiau o raglenni teledu sydd wedi defnyddio deunydd o’r Archif yn eu cynhyrchidau mis yma:

DAVID LLOYD GEORGE

Rhaglen 1        Rhaglen 2

Darlledwyd y ddwy raglen ar 13 a 20 Ionawr, i nodi 150 mlwynedd ers geni Lloyd George.

HENO

Gwelir clipiau o eira mawr 1962 yng NghaerdyddRoath Park 1962, yn dilyn yr holl eira rydym wedi ei gael yn ystod yr wythnos ddiwethaf.  Darlledwyd y rhaglen ar 21 Ionawr.

WELSH TOWNS

Defnyddiwyd deunydd o’r Archif yn y rhaglenni yma oddi fewn i’r ail gyfres o ‘Welsh Towns’.  Ceir Eddie Butler yn ymweld a wahanol trefi yng Nghymru gan adrodd eu hanes.

Barry – darlledwyd ar 8 Ionawr

Wrecsam – Mi fydd y rhaglen yma yn cael ei ddarlledu ar 29 Ionawr



Dydd Llun diwetha’ es i bremier chwe ffilm arbennig iawn yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Fe ddaeth y gwahoddiad gan Anabledd Cymru – y corff a gynlluniodd y ffilmiau, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, fel rhan o ddathliadau ei 40fed penblwydd. ‘Roedd yn ffordd addas iawn o nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, sydd hefyd yn digwydd ym Mis Hanes Anabledd y DU – a’r peth gwych ydi y gall pawb bellach weld y ffilmiau, fydd hefyd yn cael eu diogelu yma yn yr Archif.

Enw’r prosiect ffilm ydi Y Stori yn 40, ac mae’n brosiect hanes llafar sy’n cofnodi atgofion a phrofiadau pobl anabl yn Nghymru o’r 1970au hyd heddiw. Cafodd y cyfweliadau eu cynnal, a’r fideo ei recordio a’i olygu, gan bobl anabl a ddysgodd sgiliau cynhyrchu drwy’r broses o greu’r ffilmiau.

Rhyw ragflas oedd y premier yn hytrach na dangosiad llawn o’r chwe ffilm – felly edrychaf ymlaen i wylio’r casgliad i gyd, gan wybod o weld y tameidiau byr y bydd y profiad yn un teimladwy ac yn gwneud i rhywun feddwl. Ac yn dysgu rhywbeth i ni oll – achos efallai mai’r prif beth a danlinellwyd i’r gynulleidfa ddydd Llun oedd mor hawdd ydi anghofio bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gynnal ymwybyddiaeth o’r gwahanol rwystrau all atal gwir gydraddoldeb a mynediad (yn yr ystyr ehangaf) i bobl ag anbledd.

Roedd yn dda clywed yn y cyfweliadau gan Ceriann, Lyndzi, April, David ac Ian (oll yn 40 eleni, fel Anabledd Cymru) sut mae gwasanaethau a thechnoleg wedi gwella eu bywydau fel unigolion, ond da hefyd oedd cael ein hatgoffa mai datblygiadau i ni adeiladu arnyn nhw ydi’r rhain, a bod lle i wella o hyd.

Yng ngeiriau Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru, am y ffilmiau – “Byddwch yn rhannu atgofion pobl o ddyddiau ysgol, bywyd teuluol, perthynasau, gwaith a dyheadau am y dyfodol…”

Rydym yn falch o ddiogelu’r dystiolaeth yma yn AGSSC, fel gall pobl ddal i’w weld a dysgu ohono ymhen 40 mlynedd eto – rhan o’r broses o basio’r stori ymlaen i genedlaethau’r dyfodol.

Darllenwch fwy am Y Stori yn 40 a gwaith Anabledd Cymru yn http://www.disabilitywales.org/1168/4192

A gwyliwch y ffilmiau yn  http://www.youtube.com/user/DisabilityWales/videos?view=0



Faint ohonoch chi sy’n ymwybodol bod nifer o’r digwyddiadau a gynhelir yn y Drwm, ag ati, yn cael eu recordio a’u cadw yma yn yr Archif?

Y rheswm dros hyn yw y byddant ar gael ar gyfer y dyfodol, ar gof a chadw, yn rhywbeth y bydd bobl yn edrych yn ôl arnynt a chofio, yn cael eu gwylio ar gyfer diben gwaith ymchwil, ac o bosib ar gyfer datblygu sgiliau pobl, h.y. wrth i staff a darllenwyr presennol sôn am eu gwaith / ymchwil.

Ond i’r rheiny ohonoch sydd wedi colli allan ar ddigwyddiad oherwydd ymrwymiadau eraill ayb, na phoener – y cyfan sydd angen i chi wneud yw edrych am y digwyddiad ar gatalog y Llyfrgell, gwneud cais amdano, a dod yma i’w wylio yn yr Archif!

Cofiwch, bydd angen oleia 24 awr o rybudd arnom, gan fod y deunydd yn cael eu cadw mewn celloedd oer pwrpasol.  Medrwch alw heibio’r Archif unrhyw bryd rhwng ddydd Llun a ddydd Gwener, 9.30 – 5.00.

Yn ogystal, mae clipiau o’r digwyddiadau i’w gweld ar dudalen YouTube y Llyfrgell.  Cymrwch olwg i weld beth sydd yno – falle bod ‘na eitem arall yn dal eich sylw yno.

Dyma rhai o ddigwyddiadau mwyaf diweddar a gafodd eu cynnal yma:

Ffotomarathon 2012

Mavron Quartet

The Longhouse in Wales: Fact and fantasy

Bydd clipau o’r digwyddiadau yma fyny ar dudalen YouTube maes o law.



Mae’r post yma yn dilyn ‘mlaen o sgwrs â ddechreuwyd ar twitter.

Holwyd os bod casgliad ffilm yr Archif wedi’u drosglwyddo i ansawdd 4K (4096 x 3072 picseli; tarddu o adduned llorweddol y sgrin). Yn anffodus, ond na yw’r ateb. Mae rhan helaeth o’r casgliad sydd wedi’u harchwilio yn bodoli ar dâp digidol fel digibeta neu dvcam. Hyn ar ansawdd manylder safonol (standard definition). Ac hyd yn ddiweddar, m’ond at yr ansawdd yma y gallwn ni wedi trosglwyddo ffilm i fideo ond efo diolch i Cymal a Llywodraeth y Cynulliad fe fedrwn ni nawr trosglwyddo y fformatau 35, 16, 9.5, S8 a R8mm drwy beiriannau i fyny at ansawdd manylder uwch sef 1080, os bod angen.

Y bwriad cynllun hir ar hyn o bryd bydd trosglwyddo’r ffilmiau ar manylder safonol a’u safio fel ffeiliau digidol ar weinydd ar gyfer pwrpasau mynediad a gwneud i ffwrdd efo’r defnydd o recordio i dâp. Rydym ar hyn o bryd yn danfon ffeiliau allan o’r Archif drwy cyswllt ftp ond mae hyn yn dibynnu ar maint a hyd y clipiau felly ‘da ni dal yn dibynnu ar dâpiau ac ‘external hard-drives’ er mwyn hela ffeils mawrion allan i unigolion a chwmniau. Fe welir bod rhan helaeth o sinemau dyddiau ‘ma wedi troi i daflunio’n digidol, drwy gwneud hyn efo tafluniad 2K (2048 x 1080 picseli), sydd dwbwl ansawdd manylder uwch. Er hyn, mae safon tafluniad 4K yn agosach i safon tafluniad o brint ffilm 35mm da. Hefyd, mae’r sinemau mwya’ diweddar, fel yr un aml-sgrin yng Nghaerfyrddin  er enghraifft, yn awr yn taflunio delwedd 4K.

Er mwyn taflunio ffilm 35mm archif ar raddfa 4K, mae angen llwyth o waith archwilio ac atgyweirio. Fel gwiro asiadau, sment, arsylwi niwed, glanhau budredd oddi ar y ffilm fel llwydni, olew, dwst ayyb. Gellir gwneud hyn efo llaw a llafur cariad neu gall y broses glanhau cael eu hwyluso wrth ddefnyddio peiriant uwchsonig ymdrwythiad llwyr. Fan hyn mae’r ffilm yn cael ei redeg drwy baddon cynnes o hydoddyn perklene a hyn wedyn yn cael ei sychu ffwrdd wrth iddo rhedeg drwy chwythwyr y peiriant. R’ôl y cam yma bydde wedyn rhaid sganio’r ffilm ar sganiwr 2K/4K, ffram wrth ffrwm ac yna mae’r ffeiliau DPX yn cael ei gweithio ar, delwedd ar ôl delwedd drwy rhaglen tebyg i Da Vinci revival. Mae hyn yn waith llafarus. Efo hen ffilmiau mud, bydde fe’n rhedeg ar 16 ffram yr eiliad felly bydde 16 delwedd i’w lanhau ar gyfer pob eiliad, 960 ar gyfer pob munud. Efo ffilmiau sain 24 ffram yr eiliad, bydde 1,440 ffram pob munud i’w cymoni! R’ôl cwblhau y gwaith adfer a graddio, gall recordio ffeil allan fel print 35mm neu fel mae pethau’n mynd, creu ffeil digidol fel jpeg2000 a hyn sy’ wedyn yn cael ei danfon i’r sinemau er mwyn lawr-llwytho a’i daflunio.

Yn 2010, ail-ryddhawyd The Great White Silence sy’n enghraifft da o atgyweriad 2K efo ychwanegiad o sgôr cerddoriaeth arbrofol. Mae’r ffilm ‘ma nawr ar gael i’w brynu ar DVD neu Blu-ray (sef DVD manylder uwch). Heblaw bod pwrpas diwylliannol neu arian mawr i’w gwneud o ail-ryddhau hen ffilmiau r’ôl gwneud gwaith adfer ar raddfa fawr, does dim lot o pwynt sganio at maint 4K am bod oblygiadau enfawr i’w cadw’n ddigidol ar weinyddion, lle bod cadw’r print neu negatif analog 35mm mewn cell amgylcheddol reoledig yn gwneud mwy o synnwyr wrth edrych ar sut mae technoleg yn datblygu a fformatau’n ymddangos, newid a diflannu!



storm

storm hydrefol ar y ffordd

Mae rhywun yn blino erbyn diwedd Awst, ac yn edrych ymlaen at Ŵyl Banc tawel i ddod dros yr holl brysurdeb a fu dros yr haf.  Er bydd yr Archif ar gau dydd Llun, fe fydd arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol yn agored, ac felly fe fydd cyfle i ymwelwyr olaf yr haf gael blas ar eitemau o’r casgliad ar y sgrinau a’r jiwcbocsus.

Yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn derbyn gwybodaeth am bob math o gyrsiau proffesiynol a chynadleddau fydd ymlaen tan ddiwedd y gwanwyn. Mae nifer o’r digwyddiadau dan adain yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn ceisio arwain yn strategol ar nifer o faterion clyweledol ar hyn o bryd. Mae eraill dan faner cyrff a chymdeithasau rhyngwladol.

Mae’r Archif yn aelod o nifer o gyrff proffesiynol, megis FIAF, IASA, AMIA, BISA, FAF, Focal a’r BUFVC.

Rhag ail adrodd, fe ffendiwch chi ddolenni i’r cyrff hyn ar un o fy mlogiau personol. Mae croeso i chi alw heibio; efallai y bydd rhyw bwt o newyddion at eich dant i’w ddarganfod yna. Mae nifer o flogiau ardderchog yn y maes archifau clyweledol, un o’r gorau (o ran ffilm cynnar) yw’r Bioscope, sy’n hynod gynhwysfawr a safonol.



Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn cyfarthrebu gyda rhai o’r archifau sain, llyfrgelloedd Genedlaethol ym Mhrydain ag Iwerddon, fel rhan o’m cwrs coleg (2007 – 2008) ac yn gysylltiedig a phroblemau a materion sydd yn codi yn sgîl casglu cerddoriaeth.

Gofynnodd Dafydd Pritchard, rheolwr AGSSC, a hoffwn i fynychu gynhadledd/diwrnod hyfforddiant BISA 2012 yn Norwich. Fe wnes i dderbyn y cynnig i fynd gyda Dafydd a chyd-weithiwr arall, Rhodri Shore, wnaethom drefniadau i fynychu y gynhadledd yn Ganolfan Archifol Norwich o Fai 18 i 19, 2012.

Treuliwyd mwyafrif o dydd Iau  y 17eg o Fai yn teithio ar drên o Aberystwyth i Norwich, gan gyrraedd Norwich yn hwyr yn y prynhawn. Ar ol cael gafael yn y gwesty, siecio i fewn, cael gorffwys; edrychais allan or ffenest i weld llong milwrol yn fy nghwynebu …

Fe wnaethom ni ein ffordd i gwrdd a rhai o aelodau bwyllgor BISA mewn tafarn cyfagos. Un effaith ffafriol mewn cynhadleddau fel hyn yw mae’n siawns i gwrdd a pobol wyneb yn wyneb yr ydech wedi cyfarthrebu gyda eisoes. Yn y dafarn cefais fy nghyflwyno i Jonathan Draper, Will Prentice a Simon Rooks o bwyllgor BISA. Ar ol i bobol eraill ymuno a ni, wnaethom fynd i lle bwyta gyfagos i gwrdd a aelodau eraill o’r pwyllgor. Ar ôl y pryd, roedd y pwyllgor eisiau cyfarfod, wnaethom Rhodri a mi fynd i gyngerdd cyfagos am noson acwstic.

Ar ol frecwast llawn ar fore Gwener, cerddom ni draw i’r Archifdi Norwich gan ddilyn yr afon, cawson wybod fod yr Archifdy tu ol i adeilad a oedd yn edrych fel rhwybeth o’r 1960au Dwyrain Almaen ac fod yna awyren RAF yn gwarchod tu allan ….

Rhaglen y diwrnod oedd cyflwyniad, chwech gyflwyniad ac cyfarfod flynyddol BISA

Dr John Alban, pennaeth Archifdy Norwich,  dechreuodd y gynhadledd gan gyflwyno hanes a waith yr Archifdy.

Furfwyd yr Archifdy ar ol tân a losgodd y safle yn 1994, gyda’r Archif Ffilm Dwyrain Anglia a Archif Sain Norfolk yn cael lleolu yn yr un adeilad.

Jonathan Draper, archifydd hŷn yn yr Archifdy, wnaeth y cyflwyniad cyntaf. Gan ddefnyddio clipiau sain a powerpoint wnaeth Jonathan ddangos cyfoeth sain yr archifdy aelodau o’r awyrly America yn yr Ail Rhyfel Byd  yn yr ardal, diwydiant cynhrychu esgidau lleol i ymchwil ddogfennol i fewn i ddylanwad Islam  yn Norfolk. Disgrifiodd am polisi digideiddio yr archif ac y dair lefel o catalogio sef:- casgliad , esgerbwd ac y ddefnydd o wirfoddolwyr.

Cafodd yr ail gyflwyniad ei wneud gan Richard Ranft o’r Llyfrgell Brydeinig, yn son am brosiect digideiddio clipiau sain a’i gyhoeddi ar lein. Mae 55,000 o draciau wedi cael ei wneud yn bresennol ac soniodd am yr problemau ac hefyd edrych yn ôl ar y ddwy rhan o’r brosiect – 1) 2004 – 2007 gynhyrchwyd gan Memnon ac y 2) 2007 – 2012 gynhyrchwyd yn fewnol. Esiamplau sain dangoswyd yn cynnwys y dialects o fewn Lloegr ac linguaphone J.R.R. Tolkien. Roedd hawliau moesol, hawlfraint, mynediad daeryddol ac gwella’r sain i gyd yn  achosi problemau meddau.

Daeth y bore i dderfyn gyda cyfarfod flynyddol BISA. Dau bwynt yn codi y cronfa ddata BISA ac arwyddbost i wahanol casgliadau o fewn BISA.

Cinio ysgafn mewnol oedd y cinio, cael cyfle i sgwrsio gyda’r wahanol aelodau.gan gynnwysYnys Manaw, Tobar an Dualchais a RTÉ .

Cyflwyniad personol am ei chasgliad cerddoariaeth oedd gan Delaina Sepko, yn trafod sut i ddosbarthu ei chasgliad yn ôl genres a y term “cerddoriaeth poblogaidd”. Gan ddefnyddioesiamplau o artistiaid rap Americanaidd a’u cymharu a’r rheolau Rules for Archival Description gan  Lyfrgell Genedlaethol Canada. Esboniodd gan ddefnyddio labeli genres mae fframwaith yn cael ei grei i lleoli pethau yn well.

Mr Richard Deswarte, curadur y UK Data Archive cyflwynodd y pendwerydd sesiwn. Dwi’n cyfadde yr oeddwn ddim yn gwybod am fodolaeth yr Archif yma. Y mae wedi bod mewn bodolaeth ers 1967 ac yn cael ei arianu gan fudiadau Llywodraethol. Prif bwrpas yr Archif yma iw chadw ac gwasanaethu data ystadegol a rhifol. Y prif defnyddwyr yw ymchwilwyr yn defnyddio y ffynhonellau qualidata a y wasnaeth data hanesyddol sydd yn gartref i 650 o chasgliadau ddata. Ymddiheiriodd Mr Deswarte am y lliafrif o eitemau sain o 50. Mae’r archif wedi ei leoli yn Prifysgol Essex ond yn cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr yn Genedlaethol ac rhyngwladol gan ddefnyddio sustem cyfrif cyfrinair.

Un cyflwyniad yr oeddwn yn edrych ymlaen i glywed oedd yn am waith y British Antartic Survey. Roddodd Joanna Rae arolwg o’r ddwy brif casgliad sain a) hanes llafar ac b) casgliad data clywedol “whistler”. Cafodd ddau glip sain ei chwarae un o aer yn ffrwydro mewn iâ ac llongwr ar long RSS Bransfield yn amser y frwydr am y Falklands. Esnoniodd fod waith digideiddio cyfyng yn cael ei wneud. Roedd sialens a ffactoriau sydd yn effeithio’r wasanaeth yn cael ei rhestri.

Y cyflwyniad olaf  y dydd, ar ail gan Richard Ranft, yn son am y wasnaeth chwilio dros Ewrop Europeana. Cafodd y wasanaeth ei lawnsio yn 2008 yn dilyn polisi 2005 European Digital Resource Initiative. Yn bresennol mae’r wasanaeth yn rhoi mynediad I 23 miliwn o eitemau digiol o 33 wlad mewn 29 o ieithoedd. Yn anffodus dim ond 2% sydd clywedol ac dim ond 1% weledol. Rhestordd Richard cryfderon a gwendidau y peiriant chwilio:- profiad y defnyddiwr, data wedi ei integreiddio (cryfderon) tra fod angysondeb metadata, wahanol safonau digieidio (gwendidau). Ym Mhrydain mae pum mudiad yn rheoli mewnlifo i’r sustem.

Dyma oedd diwedd y diwrnod furfiol, trefnwyd I ni gyd gwrdd mewn dafarn lleol arall am trafodaeth anfurfiol, rhwydweithio a bwyd.

Roedd natur yr ail fore yn llau ffurfiol . Cyflwynodd Janis McAnallen, o’r BBC, strwythr wybodaeth metadata o fewn y BBC. Cynhyrchwyd hyn gan greu rhestrau taxonomy o’r holl wybodaeth sydd yn llifo trwy’r sustemau rheolu y mudiad. Gan ddefnyddio y archif ddigidol Fabric ac gwneud arolwg effeithrolrwydd draws adranol am ddata cyffredin creuwyd rhestri taxonomy. Yr esiampl cyflwynwyd oedd yr icon Doctor Who  o fewn Brand – cyfres – rhaglen – fersiwn. Y perthynas agos a pell yn cael ei nodi fel pethau bositif or broses a tagiau sydd yn cael ei rheoli sydd yn cael ei ffafrio. Ar ol hyn, bach o waith meddwl ar ein rhan ni – cafodd y grwp ei rhannu yn ddau a gofynwyd i ni leoli rhestri o gardiau ag enwau arnynt i fewn i tŷ, dynol rhyw, anifeiliad, rhyfel.

I orffen y gynhadledd, cyflwyniad cyflwym am y Archif Ffilm a thaith o amgylch yr Archifdy. Cafwyd olwg yn storfeydd, y ystafelloedd cadwraethol ac y manau i’r defnyddwyr/darllenwyr.

Edrych yn ôl ar y gynhadledd yn Norfolk. Roedd ef ddefnyddiol  ar ddwy lefel:-

1)      Y wahanol cyflwyniadau – o’r ffurfiol i’r anfurfiol. Llawer o wybodaeth defnyddiol a wybodus.

2)      I drafod pwnciau llosg gyda aelodau eraill o’r gynhadledd yn ffurfiol ac ymestyn a rhai ohonynt yn anfurfiol dros fwyd mewn lleoliadau o amgylch Norwich.

Mae’r gynhadledd wedi rhoi hyder ein bod ni (Archif Sgrin a Sain/Llyfrgell Genedlaethol) ddim ar ben ein hun yn yr ystyr fod yna fudiadau bach a chenedlaethol eraill yn gwynebu yr un problemau a phynciau llosg a ni. Byddaf yn  defnyddio y cysylltiadau, wybodaeth a’r safloedd we nodwyd I gyfoethogi fy nghwaith yn y dyfodol.



Un o fy hoff bleserau wrth weithio gyda’r AGSSC yw fy nyletswyddau yn y Drwm, sef awditoriwm amlgyfryngol wedi iw leoli yma yn y LLGC, sydd a ddigon o le ar gyfer 98 o bobol! Dros yr wythnos ddwythaf cafwyd ddau brif ddigwyddiad, dydd Mawrth roedd Dr Rhidian Griffiths yma i drafod ogof y Llyfrgell Genedlaethol yn ei sgwrs ‘Aladdin’s Cave – The National Library of Wales in World War II’- lle cadwer amryw o luniau a eitemau pwysig eraill o Lundain dros cyfnod y yr ail Rhyfel Byd. Fel yr arfer gan Rhidian (rwyf yn sicir ddylai Dr Rhidian gael slot wythnosol yn y Drwm!) sgwrs hynod addysgiadol hynnod ddifir. Wedyn dydd Mercher roedd yr Athro Phillip Scholfield a Dr Elizabeth Anne New yma i drafod seliau yn ei sgwrs amser cinio  ‘Seals and their Context in Medieval Wales and the Marches’. Unwaith eto sgwrs hynnod ddifir am bwnc na wyddom dim amdano cyn! (mae crynhoad ar flog LlGC.

Mae’r Drwm wedi datblygu i fod yn rhan anatod o fywyd y Llyfrgell Genedlaethol, gyda pob math o ddigwyddiadau yn cael ei gynnal – o cyflwyniadau awr ginio, i cynhadleddau, i ddangosiadau ffilm, i lansiad llyfrau i ddigwyddiadau cerddorol o bob math. Os yr ydych wedi methu rhai or digwyddiadau yma, efallai eich bod yn darllen hwn ac yn teimlo ‘Damia! Fyswn ni wedi licio gwel y cyflwyniad dydd mawrth neu/ag cyflwyniad dydd mercher’, neu wedi methu Dr Meredydd Evans yn canu, neu wedi methu gig diwethaf Meic Stevens, neu fysa chi wedi hoffi gweld lansiad llyfr cofiant y diweddar Huw T Edwards ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’ neu Jan Morris yn trafod pleserau y teithiwr, neu Elisabeth Luard yn trafod iw llyfr ‘A Cook’s Year in a Welsh Farmhouse’ neu hyd yn oed lansiad cyfeithiad Saesneg llyfr Yann Fouéré ‘La Maison in Canemara: The History of a Breton’  - na phoener o gwbwl! Mae’r rhan helath o ddigwyddiadau y Drwm yn cael ei recordio gan yr AGSSC ac ar gael iw gweld yma yn yr AGSSC!  Rydym hefyd yn uwch lwytho rhai o darnau gorau  safle we YouTube y Llyfrgell.

Ond fel yr ydym i gyd yn gwbod, does dim yn curo bwrlw ag awyrgylch digwyddiad byw. Felly yn fuan, mae ganddynt gerddoriaeth byw – mae’r canwr poblogaidd Gareth Bonello (the Gentle Good) yma  ar y 27fed o Chwefror, mae Carwyn Tywyn yma gydai delyn ar y 26ed o Fehefin. Mae dangosiadau ffilm, gyda ‘A Run For Your Money’ (1949) (ffilm gomedi am anturiaethau dau lowr diniwed yn mynd i Lundain i weld gem rygbi Cymru yn erbyn Lloegr!), ar  y 18fed o Orffenaf mae dangosiad ‘Goreunon Chwaeraeon S4C’ gyda dangosiad o ‘Orig’ (1986) yn dilyn yn y reslwr enwog Orig Williams (El Bandito) a ‘Dyrnau Celtaidd’ (1997) yn dilyn cyfraniad y cenhedloedd Celtaidd at fyd bocsio. Dim ond detholiad bach iawn yw rhain. Mae ddigonedd yma at ddant pawb! Mae gwybodaeth am y digwyddiadau yma ar gael ar we fan y LlGC neu yn rhaglen y LLGC.  Rwyf yn edrych ymlaen i’ch gweld yn fuan!



Er bod tuedd, efallai, i feddwl am waith archif ffilm fel ymdrech fawr i achub ffilmiau coll (a hen, a du-a-gwyn), y gwir yw bod casglu gwaith newydd a chyfredol yr un mor bwysig i’r dasg o ddiogelu ein hetifeddiaeth ffilm. Bu ffilmiau’r cyfarwyddwr o Gaerdydd, Steve Sullivan, ar ein rhestr ‘darged’ ers peth amser, a bellach maent yma yn saff! Mae Steve yn adneuwr delfrydol – wedi bod wrthi y ddyfal yn labelu a mynegeio ei riliau ar ein cyfer, gan hwyluso llawer ar ein gwaith ni yn y pen yma! Bu’r Archif yn gartref ers rhai blynyddoedd i’w ffilm ‘A Heap of Trouble’ (enillydd gwobr BAFTA), ac yn awr mae’n bleser ychwanegu ‘Fatted Calf’ (cyd-enillydd gwobr DM Davies, 1998), ‘The Debt’ (1998) a ‘Dreams andDesires’ (1997) – troeon trwstan oll!

Rydym yn edrych ymlaen hefyd at weld ffilm hir gyntaf Steve, sef ‘Happy Hours’ – ac wrth gwrs i’w diogelu, maes o law, i’r oesoedd a ddêl!