You are here: Adref > Blog
Caradog Prichard yn sgwrsio â John Ogwen

Caradog Prichard yn sgwrsio â John Ogwen

Dros yr wythnosau diwetha, dwi wedi bod yn chwilio am ddeunydd o’r Archif i fynd ar y sgrin yn arddangosfa Awduron Cymru. Eleni, bydd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar waith Brenda Chamberlain a Caradog Prichard.

Mae’r gwaith wedi bod yn ddiddorol, a dwi wedi dysgu llawer am fywyd a gwaith y ddau wrth ymchwilio i’r deunydd sydd yma.

Un o’r rhaglenni mwya’ diddordol ‘nes i ffindio oedd rhaglen o’r enw ‘Hogyn Jack Bach Mangl’. Rhaglen ddogfen ar fywyd a gwaith Caradog Prichard ydy hon, a gafodd ei ddarlledu ar S4C ar y 23ain o Ragfyr 1991. Mae sawl clip archif diddorol yn y rhaglen, gan gynnwys Caradog yn ymweld â’i ardal enedigol, a fo a Mati, ei wraig yn eu cartef yn Llundain. Mae un clip difyr iawn o’r ddau yn trafod gwleidyddiaeth…!

Bydd y clipiau yma i’w gweld yn arddangosfa Awduron Cymru, sy’n agor yn y Llyfrgell o fewn yr wythnosau nesa’.



Meredydd Evans efo'i wraig Phyllis a'i ferch Eluned

Meredydd Evans efo'i wraig Phyllis a'i ferch Eluned

Yn setlo nôl mewn i’r gwaith heddiw ar ôl cynnwrf digwyddiad ‘Merêd yn 90! ddoe. Un o gyflwyniadau awr ginio’r Llyfrgell oedd hwn – dathliad trwy gyfrwng eitemau o gasgliad yr Archif o’r hyn y mae Meredydd Evans wedi llwyddo i’w gyflawni mewn gyrfa hir ac amrywiol sy’n ymestyn yn ôl i 30au’r ganrif ddiwetha. Fe wnaethom ni lwyddo i gynnwys enghreifftiau o’i waith ar draws bron i bob cyfrwng sydd gyda ni – mae’n siwr nad oes llawer o bobol yng Nghymru, os oes unrhywun o gwbl, sydd a’i fywyd neu ei bywyd wedi’i gofnodi i’r un graddau. Fe ges i lot o help gan ein ffrindiau yn  BBC Cymru, ITV Cymru a S4C, a rhyngddom i gyd fe ddaeth rhaglen o glipiau gwerth chweil at ei gilydd. Roedd y Drwm wedi gwerthu allan, a phobol yn ciwio i fynd i mewn. Roedd gwên ar wynebau pawb yn dod mâs – ac ar wynebau Merêd a Phyllis.