You are here: Adref > Blog

Lansio'r pethe

Cafwyd drafodaeth hwyliog a difyr dros ben neithiwr wrth lansio cyfres newydd diwylliant S4C sef  “pethe”, a gynhyrchir gan Cwmni Da.

Y panel trafod, dan arweiniad Rhun a Nia



Yr Orsedd - pryd a lle?

Ys gwn i a ydych chi’n gallu adnabod lleoliad a dyddiad y llun yma o’r Orsedd? Rydym newydd darganfod ffilm fach ddiddorol, ac yn ymchwilio i’r cefndir. Rwyf am i bawb edrych ar y llun gyda meddwl agored, felly rwyf yn atal fy hun rhag rhoi unrhyw “hints”! Os ydych yn meddwl eich bod yn gwybod, gadewch sylw ar waelod y dudalen, os gwelwch yn dda.



Ceir cynhadledd dau ddiwrnod mewn archifio ffilm yn Efrog y penwythnos yma. Cliciwch ar y linc canlynol am ragor o fanylion a rhestr o’r  siaradwyr; Cynhadledd Archifo’r Dyfodol



Christopher Rees - Drwm 19/2/10

Fe ddaeth Christopher Rees yma nos Wener i gynnal gig gwych. Roedd geiriau meddylgar ei ganeuon a’i allu offerynnol yn ddigon i dwymo calon y cefnogwyr a ddaeth drwy’r eira i’r Drwm i wrando arno.

Ymhlith ei set oedd sawl cân o’i albwm diweddaraf “Devil’s Bridge”.

Gellir cysylltu â gwefan Christopher Rees yma.



Dros y misoedd diwethaf, mae’r Archif wedi gweithio’n galed i helpu’r bfi a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i greu Mediatheque bfi, yn llyfrgell Wrecsam.

Hwn fydd y Mediatheque cyntaf y tu allan i Loegr, ac fe fydd defnyddwyr y llyfrgell yno yn gallu gwylio ystod eang iawn o ffilmiau wedi’i digido. Fe ddaw’r rhan fwyaf o’r ffilmiau o Archif Genedlaethol y bfi, ond hefyd ceir nifer helaeth o eitemau a ddaw oddi wrth archifdai a darlledwyr rhanbarthol / cenedlaethol – gan gynnwys ni!

Fe fydd Mediatheque bfi Wrecsam yn agor ddiwedd mis nesaf.

Roedd sôn am y prosiect yn ddiweddar ar wefan newyddion y BBC (yn Saesneg).

Ceir manylion cyffredinol (yn Saesneg) am y Mediatheque-au ar wefan y bfi



Mae tocynnau ar gael wrth y drws ar gyfer gig Christopher Rees yn y Drwm heno.  Mae’r perfformiad yn dechrau am 7.30 yr hwyr.



Staff yn derbyn hyfforddiant ar system Quadriga

Staff yn derbyn hyfforddiant ar system Quadriga

Mae AGSSC newydd dderbyn system sain Quadriga ar gyfer trosi hen recordiadau  i ffurf digidol.

Mae Quadriga yn un o nifer o systemau trin sain sydd wedi’u datblygu gan Cube-tec.



Cawsom ddiwrnod arbennig o brysur rhwng popeth pnawn ddoe. Ymhlith ein gweithgareddau roedd taith o gwmpas yr Archif i nifer fawr o fyfyrwyr ffilm 3ydd blwyddyn o Brifysgol Aberystwyth.

Roeddynt i weld yn reit gyffrous wrth ymlwybro trwy’r labirinth staciau ar eu ffordd at ein celloedd storio, ac wrth eu bodd efo’r holl hen gyfarpar trin ffilm rydym yn ei ddefnyddio yn feunyddiol.

Cwblhawyd y daith gyda dangosiad o ffilm am y Gymru gynaladwy, a wnaed gan John Burgan ar gyfer CAT, gan ddefnyddio clipiau helaeth gennym o’r hen Gymru ddiwydiannol.



Dave Berry,  Hanesydd Ffilm
1943 – 2010

Clywsom yn ddiweddar am farwolaeth di-symwth Dave Berry, a fu’n Ymchwilydd i Archif Ffilm a Theledu Cymru, ac yna i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, hyd ei ymddeoliad yn 2005.

Wedi’i fagu yn Bolton, fe symudodd gyda’i waith i fod yn newyddiadurwr ar yr “Echo” yng Nghaerdydd. Roedd yn caru pob agwedd o ffilm, yn enwedig gweithiau’r cyfnod mud, ac yn y diwedd rhoddodd gorau i’r Echo, a chanolbwyntio ar ysgrifennu ei gampwaith “Wales and the Cinema: the first hundred years”, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (gydag argraffiad newydd yn 1996).

Roedd Dave yn gymeriad a hanner, ac yn berson hoffus a charedig iawn. Doedd byth yn gwrthod cymwynas i’r Archif. Roedd yn bleser ei adnabod, ac yn fraint gallu gwneud mymryn tuag at  hyrwyddo ei uchelgais dros ddiwylliant ffilm Cymru.

Fe fydd angladd Dave am 11 bore dydd Gwener 12ed Chwefror, yn Amlosgfa Thornhill, yng Nghaerdydd.

Teyrnged LlGC

Wal Facebook

The Bioscope

Lluniau o Dave yn cefnogi gwaith AGSSC  (Flickr)



Lansiad DVD Proud ValleyDechrau’r flwyddyn yma, rhyddhaodd Optimum Releasing y ffilm glasur o 1940 ‘Proud Valley’ ar DVD. Cynyrchwyd y ffilm gan Stiwdios Ealing. Mae’r ffilm wedi’i lleoli mewn cymuned lofaol yn ne Cymru, ac yn serenu’r actor Paul Robeson ond hefyd yn cynnwys perfformiad cyntaf Rachel Thomas, Dilys Thomas, Simon Lack ac Edward Chapman.

Ar ddyd Sul Chwefror 7, lanswyd y ffilm ar DVD yn y Chapter yng Nghaerdydd. Ar ôl y dangosiad, cafwyd trafodaeth gyda panel. Aelodau’r panel oedd Michelle Ryan, Peter Stead a Colin Thomas. Roedd y drafodaeth yn ddifyr iawn, a bu ymateb y gynulleidfa yn gadarnhaol iawn.