You are here: Adref > Blog

Rwyf wrthi’n gwylio pob mathau o ffilmiau o’r casgliad i greu DVD byr ar gyfer cleient sydd eisiau ‘blas’ o rhyw ddeng munud o’r ‘etifeddiaeth ffilm’. Mae’n broses ddifyr – nid yn unig atgoffa fy hun o’r delweddau trawiadol sydd yn yr Archif, ond hefyd gorfod meddwl sut y gallai clipiau go wahanol asio gyda’i gilydd i wneud cyfanwaith. Ddoe roeddwn yn gwylio ffilm ‘o’i chyfnod’ – ‘Llandudno – Naples of the North’ (1950au) – ac er bod delweddau hyfryd drwyddi, roedd rhaid ei rhoi yn ol ar y silff yn y diwedd oherwydd natur bytiog a ‘stacato’ ei strwythur – clip ar ol clip byr fel mwclis ar linyn – yn adleisio llais yr adroddwr 1950aidd anffodus! Problem arall fydd sain: rhywsut bydd rhaid i’r trac sain glymu clipiau sydd a sain arnynt yn barod, a chlipiau o ffilm mud … Ychydig o her mewn byr amser!



Wythnos diwetha treuliais ddiwrnod yng nghynhadledd Cyfrwng yng Nghaerfyrddin. ‘Lleisiau’ oedd thema’r gynhadledd, cysyniad sy’n arbennig o berthnasol i ni mewn gwlad fach wedi ei hamgylchynu gan leisiau uchel gwledydd mwy.

Wrth gwrs, mae ‘na leisiau oddi mewn i’n glwad sydd ddim wedi cael gwrandawiad teilwng, chwaith. Mewn sesiwn ar bartneriaethau creadigol rhwng y sector addysg uwch a’r gymuned, cawsom gyfle i weld ffilmiau wedi eu hanimeiddio’n wych gan bobl ag anfantais meddyliol fu’n gweithio gydag Yvonne Eckersley o Brifysgol Glyndŵr.

Yn addas iawn, dyfarnwyd Gwobr Cyfrwng eleni i Merêd (Meredydd Evans), a fu’n meithrin cymaint o leisiau diwylliant poblogaidd Cymraeg ar radio a theledu, yn ogystal a bod yn lais adnabyddus ei hun. (Gweler blog cynharach ar deyrnged yr Archif i Merêd ar achlysur ei benblwydd yn 90 oed fis Rhagfyr diwetha.)

Llwyddais i ddal sesiwn ola’r gynhadledd, ‘Llais yr Awdur’, ar bnawn Gwener, trwy gyfrwng y gwe-ddarllediad. Un o’r siaradwyr oedd Siwan Jones, a gofynnodd y cwestiwn, ‘Ydy’r Gymraeg yn cyfyngu ar lais yr awdur?’ Ei hateb oedd, ‘Ydi, ond yn y cyfyngu hwnnw mae rhyddid i fod yn llawer mwy dyfeisgar.’

Un o swyddogaethau’r Archif yw casglu cymaint o wahanol leisiau at ei gilydd â phosib, ac wrth wneud hynny adeiladu darlun mor gyflawn â phosib o’n hanes a’n diwylliant, fel bod pobl yn cael clywed eu hunain, ac adnabod eu hunain, yn well.



Agorwyd y Drwm yn Mehefin 2004. Ers hynny, mae’r lle wedi bod yn brysur gyda sawl digwyddiad, ac erbyn hyn tua 150 o’r digwyddiadau hynny i’w gweld ar gatalog yr Archif.  Mae’r tîm Technegol yn recordio nifer o’r digwyddiadau, ac mae modd i’r cyhoedd eu gwylio yma yn yr Archif.  Felly, os rydych wedi colli unrhyw ddigwyddiad, edrychwch amdano ar ein Catalog neu cysylltwch â ni er mwyn trefnu i’w wylio.

Mae’r casgliad yn cynnwys:

Rhodri Morgan in the Drwm



Cynrychiolodd Iestyn Hughes yr Archif yn y JTS a Chyngres FIAF yr wythnos ddiwethaf.

Fe ddaeth tua 400 ynghyd i drafod materion technegol manwl dyrys sy’n gosod sialensau enfawr i’r byd archifau clyweledol

Llyfrgell Genedlaethol Norwy



Dwy wŷl Eidaleg sydd gwerth eu mynychu yr hâf yma yw;
Il Cinema Ritrovato, Bologna
Mehefin 26ain i Orffennaf 3ydd, 2010
Gwyl Ffilmiau Mud Pordenone
2il – 9fed o Hydref, 2010



Noson Lawen Mae clip y mis newydd wedi’i ychwanegu i’n gwefan. Daw’r clip o’r ffilm ‘Noson Lawen’, a gynhyrchwyd gan Brunnel Lloyd & Co Ltd yn 1950. Yn y clip, gwelwn y bobl lleol yn dod at ei gilydd i ddathlu diwedd y cynheaf. Mae mwy o wybodaeth am y ffilm i’w gael o’r prif gatalog.

Ffilmwyd y ffilm yn Parc, Y Bala, ac fe’i ddangoswyd yn Neuadd Buddug, Y Bala yn ddiweddar yn ystod taith Clasuron ar Olwynion yr Archif. Mae’r ffilm yn rhoi blas ar fywyd amaethyddol pentref cefn gwlad Cymreig yn ystod y 1950au, ac mae agosrwydd y gymuned i’w weld yn amlwg.