Yng nghasgliad yr AGSSC mae casgliad llethol o Dapiau Umatic, (3,681 i fod yn fanwl gywir!) sydd yn dyddio o 1981 hyd at 1993. Recordiadau ‘off air’ ydi rhain sydd yn cynnwys rhaglenni teledu sydd yn ymwneud â Chymru a’r Cymry a llawer mwy. Ar hyn o bryd rydym yn eu trosglwyddo i fformat mwy diweddar, sef i DVD ac i dapiau ‘DigiBeta’, er mwyn sicirhau eu dyfodol ond hefyd er mwyn i’w gwneud yn amlycach i chi, bobl Cymru ac i bawb i gael eu gweld, eu mwynhau a’u cofio. Ymhlith y casgliad mae copiau o clasuron Cymreig, megis ‘Teulu’r Mans’, antics Dai Jones Llanilar (pwy all anghofio Dai ar Y Piste?! Sydd wedi gwneud i mi llythrenol grio a rowlio chwerthin am olea dwy awr solet cyn heddiw) ac wrth gwrs yr anfarwol C’Mon Midffild!
Rhai o uchafbwyntiau yr wythnos yma mor belled, yw ‘Y Byd ar Bedwar’ (a gafwyd ei ddarlledu 25/06/1990 – UM3222). Yn y rhaglen hon, mae Tweli Griffiths yn dilyn Carlos Menem, arlywydd yr Ariannyn ar y pryd. Yn ôl y sôn, hwn oedd y tro cyntaf y cafwyd caniatad i unrhyw griw ffimio tramor ddilyn yr Arlywydd, yn ei waith ac yn ei fywyd personol. Mae’r rhaglen yn cynnig golwg ddiddorol ar y ffigwr lliwgar hynod ddadleuol yma ac yn cynnig trawsdoriad diddorol o farn pobol Yr Arinannyn ar y pryd arno. Uchafbwynt difir arall, rhaglen o’r enw ‘Ar Waelod Cof’ (UM3229 – 08/07/1990). Rhaglen yn dilyn hanes bywyd a gwaith D.Gwenallt Jones, wrth fenthyg pwt o’r blog Saesneg, ac i fenthyg geiriau wikipedia ‘a poet a critic and scholar, was one of the most important literary figures in the Welsh language’. Ffilm du a gwyn a gafodd ei sgriptio gan Dafydd Rowlands. Mae’r rhaglen yn cynnig cipolwg ar ei gefndir a oedd yn ddylanwad mawr arno a sydd wedi lliwio ei waith ac i’w feddylfryd. Un uchafbwynt arall ydi ‘A Letter For Wales’ (UM3228 – 05/07/1990) sydd yn dilyn atgofion yr actor Donald Houston wrth iddo bostio llythyr adref i Gymru fach. Mae yn rhoi darlun hynnod rhymantys a ysteriedus o Gymru. Fel y clywais yn rhywle dwrnod or blaen (o ni ama efallai oddi ar y ffilm yma oedd o, ond wrth chwarae y ffilm yma yn nol, na!) – ‘You have to leave somewhere to fully appreciate it’!
Fel y gwelwyd wrth rhifau yr UM, gwerth un wythnos o dapiau Umatic yw rhain, mae lot lot lot mwy na hyn! Dewch i weld y casgliad, cewch weld fod yna lot mwy i S4C na ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ a ‘Noson Lawen’!
Grym a parch am y tro!





