Pnawn dydd Mawrth roedd y Drwm yn byrlymu gyda sŵn plant o bob oed yn mwynhau awr o gartwnau o’r archif.
Ymhlith yr hen ffefrynnau o’r 1980au a 90au – oes aur i animeddio yng Nghymru – oedd Superted, Sam Tân a Wil Cwac Cwac.
Yn y rhaglen hefyd roedd un animeiddiad hen iawn – o’r 1920au – sef Jerry the Tyke, a gan ei fod yn dyddio o oes cyn dyfeisio’r trac sain, daeth Stephen Briggs i mewn i gyfeilio ar y piano.
Heddiw mae mwy o gartwnau Cymraeg ar gael nag erioed o’r blaen, llawer iawn ohonynt i’w gweld bob dydd ar wasaneth ‘Cyw’ S4C. Eto i gyd, rwy’n gobeithio bydd plant yn dal i fynd i’r sinema i fwynhau gweld cartwnau gyda’i gilydd ar y sgrin fawr, fel y gwnaethon nhw yma bnawn dydd Mawrth diwetha’.




