Mae wedi bod yn wythnos o gysylltu gyda pobl sydd â ffilmiau o ddiddordeb i’r Archif – ffilmiau amatur, y rhan fwyaf, yn adlewyrchu bywydau pobl o ’30au i ’70au y ganrif ddiwethaf, a hynny mewn sawl rhan o Gymru. Beth sy’n fy nharo yw amrywiaeth y pynciau gaiff eu disgrifio i mi yn ystod y sgyrsiau ffôn – mae’n debyg y medrwn edrych ymlaen at weld gweithgareddau yn amrywio o waith fferm a thripiau capel, i weithgareddau sgowtiaid a llongau yn docio yng Nghaerdydd a Lerpwl – gan gynnwys yr enwog Lusitania yn ol y sôn! Mae bron pob un o’r darpar-roddwyr y siaradais â nhw wedi pwysleisio y gall fod talpiau o bethau difyr eraill ar eu ffilmiau cine, sydd o bosib wedi mynd yn angof am na fedrant eu taflunio bellach. Felly pan gyrrhaedda’r ffilmiau mi fyddwn ni a hwythau yn dal ein gwynt – wyddoch chi byth pa drysor ddaw allan o gan rhydlyd!
[Gair i ddarpar-roddwyr eraill: peidiwch, da chi, â thaflunio eich hen ffilmiau, hyd yn oed os oes gennych daflunydd sy'n gweithio - mae'r ffilm yn debygol o fod yn fregus, ac angen ei drwsio a'i lanhau ac ati cyn ei drosglwyddo i DVD neu fformat arall. Gadewch i ni wneud y gwaith ar eich rhan, yn ddiogel!]




