Ers ddechrau’r haf mae nifer o ddigwyddiadau a dangosiadau wedi eu cynnal yn y Drwm. Rhywbeth bach at ddant pawb! Roedd nifer o’r digwyddiadau yma yn rhai poblogaidd iawn, gyda’r tocynnau i gyd wedi mynd. Wrth lwc, mae ein criw technegol yn recordio’r digwyddiadau yma, er cof a chadw, ac maent yn cael eu storio yn yr Archif.
Os hoffech weld unrhyw un o’r recordiadau yma, gallwch bori ein catalog ar-lein a gwneud cais amdanynt, gan ddod i’r Archif i’w gwylio. Cofiwch bod angen 24 awr o rybudd arnom, a bod yr Archif ar agor rhwng 9.30 a 5.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Dyma rai eitemau sydd yn ein casgliad:
- ‘An evening with Rory Cellan-Jones’ – gohebydd Technegol y BBC yn trafod ei waith
- ‘Family History Research in the South Wales Coalfields’ – Elisabeth Bennett a Sian Williams
- Sêr Ceredigion – Cyngerdd rhai a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni
- ‘Lloyd George – the Great Outsider’ – Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Hattersley yn sôn am ei gyfrol ddiweddaraf


