Am y tro cynta’ erioed, mae’r Archif Sgrin a Sain yn cydweithio â myfyrwyr cwrs Cyfryngau Coleg Ceredigion ar broject ffilm.
Dechreuodd hyn wedi i Sophia Behraki, golygydd ffilm sy’n darlithio yng Ngholeg Ceredigion ddod i’m gweld yn ystod y haf, gyda’r syniad bod ei myfyrwyr yn creu ffilmiau byr gan ddefnyddio casgliad amatur yr Archif. Byddant hefyd yn rhoi cerddoriaeth i’r ffilmiau newydd hyn. Mae casgliad amatur yr Archif yn enfawr, ac mae’n dda bod deunydd yn cael ei wneud ohono. Yn aml, mae’r deunydd yn gallu bod yn ddiflas i’w ddangos i gynulleidfaoedd- oriau ac oriau o ddigwyddiadau teuluol di-sain, felly mae’r project yn ffordd wych o gyflwyno’r casgliad unigryw yma.
Mae’r project yma hefyd wedi derbyn Marc Ysbrydoli’r Olympiad Diwylliannol! Mae hyn yn anrhydedd mawr i ni ac i Goleg Ceredigion. Mae’r wobr yn cael ei roi i brojectau arloeosol sydd wedi’u ysbrydoli gan Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.
Rydym yn edrych mlaen yn arw i weld y ffilmiau gorffenedig, a croeso mawr i chi gyd ymuno â ni yn y Drwm ar 7 Mawrth, pryd bydd y myfyrwyr yn cyflwyno ac yn dangos y ffilmiau newydd i ni.