You are here: Adref > Blog

Un noson o Hydref  llynedd fe wnes i gyfweld a menyw sydd â llais unigryw a’r  ddawn arbennig i ysgrifennu canueon, sef Mary Hopkin. Y ferch o Bontardawe a ganodd y fath berlau “Those were the days”, Knock knock who’s there”, “Aderyn Llwyd”, “Earth song” a fersiwn wych o “Streets of London”. Dwi wedi dilyn ei gyrfa ers i fi glywed ei llais yn fy arddegau, yn yr wythdegau cynnar.

Roedd y cyfweliad yma yn gynnyrch o sgyrsiau diplomatic gofalus gyda ei merch, Jessica Lee Morgan ac hoffwn ddiolch iddi ar rhan yr Archif am y cymorth i gael gwneud y cyfweliad. Mae sôn fod Mary yn ofalus iawn o’r cyfryngau ac enwedig ceisiadau am gyfweliad, ond yr oedd y siawns i gyfarfod a siarad gyda hi yn wych. Roeddwn yn benderfynol i gyfweld â hi ar ran yr Archif i gael recordiad heb ei olygu (yn geiriau ei hun) o Mary yn siarad am ei gyrfa.

Dwi’n cyfadde, tra fy mod i yn aros am y cyfweliad i ddigwydd yr oeddwn i yn nerfus ac yn ansicr iawn, ond doedd dim sail i fy mhryder. Pan wnaeth Jessica gyflwyno Maryi fi, roedd hi’n groesawgar, siaradus ac yn gartrefol.

Parodd y cyfweliad am bron hanner awr, a bu hi’n trafod ei phrofiadau cyntaf o ganu o flaen ei theulu i ganu yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Y rheswm ei bod yn y fan a’r lle y noson yma – cyngerdd lawnsio albwm ei merch. Aeth y cyfweliad yn dda, a ‘nes i ddim holi gormod am ei hymddangosiad ar Opportunity Knocks, y cyfnod yr oedd efo Recordiau Apple a’r Beatles.

Roedd hi’n braf gweld Mary yn cefnogi ei phlant.  Mae’r sylw diweddar wedi bod arni yn ail-ryddhau ei hen recordiau, ond noson y cyfweliad, roedd y ffocws ar albwm newydd ei merch, Jessica “I am not” a’r albwm mae hi wedi’i wneud mewn partneriaeth â Morgan, ei mab “You look familiar”.

Er nad oes siawns o weld Mary yn perfformio ar lwyfan, mae’n braf gweld bod talent ysgrifennu cerddoriaeth, geiriau a’i llais unigryw dal yn bresenol.

Mae’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn falch iawn i gasglu cerddoriaeth Mary, Morgan a Jessica ac hoffwn ddiolch i Morgan, Jessica a’r grŵp am gyngerdd pleserus ac ddiolch i Mary am gytuno i’r cyfweliad. Mae’r cyfweliad bellach ar gael yn yr Archif.



Wythnos ‘ma, mae un o beiriannau yr Archif yn cael ei drin. Fel arfer, mae hyn yn cael ei wneud ar safle yr Archif yn Aberystwyth, ond o bryd i’w gilydd mae’n rhaid i ni ddanfon peiriannau ar daith er mwyn galluogi’r weithred.

Yn y llun, gwelir beth sydd yn edrych fel arch – ond na phoener! Bocs pren, cadarn ydyw a grëwyd gan dîm arddangosfeydd y Llyfrgell. Ynddo, mae ‘na ddilynwr sain 16-35mm, sydd wedi ei bacio yn dynn er mwyn iddo deithio yr holl ffordd i Berlin. Pwysau terfynol y bocs cludo yw 190kg. Gute reise!