Yr wythnos diwetha’, mynychais gynhadledd Learning on Screen y BUFVC yn y National Film Theatre (BFI Southbank) yn Llundain. Eleni, roedd y gynhadledd yn edrych ar bwysigrwydd a manteision defnyddio delweddau symudol a sain mewn addysg. Roedd siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys Bill Thompson, Pennaeth Datblygu Partneriaeth i Ddatblygu Archif BBC, Ciara Chambers, Darlithydd Astudiaethau Ffilm, Prifysgol Ulster a Prif Weithredwr y BUFVC, Luis Carrasqueiro.
Ar ôl y cynhadledd, roedd seremoni wobrwyo. Gwobrwywyd rheiny sydd wedi defnyddio delweddau symudol fel modd o ddysgu ac ymchwilio. Cyflwynwyd y seremoni gan yr awdur a’r darlledwr, Michael Cockerell.



