O Madge Breese i Stereophonics, ac o bregethau i hanesion llafar. Amrywiaeth eang o glipiau yn adlewyrchu dros ganrif o recordiadau sain sydd yn rhan o gasgliad yr Archif. Gwledd i’r glust!
1:15pm, Dydd Mercher, 18 Mai
O Madge Breese i Stereophonics, ac o bregethau i hanesion llafar. Amrywiaeth eang o glipiau yn adlewyrchu dros ganrif o recordiadau sain sydd yn rhan o gasgliad yr Archif. Gwledd i’r glust!
1:15pm, Dydd Mercher, 18 Mai
Cyfarwyddwr Coronation Street, cyn gyfarwyddwr Eastenders a Heartbeat a chyn-gynhyrchydd Pobol y Cwm fydd yn rhannu ei brofiadau.
7:30pm, Nos Wener, 3 Mehefin.
Cyflwynir gan Edith Hughes, Rheolwr Ymchwil ac Archif, BBC Cymru.
1:15pm, dydd Mercher, 15 Mehefin,
Awr o raglenni a chartwnau addas i blant ysgol gynradd.
2:00pm, Dydd Mercher, 17 Awst
Cyflwynir gan Jen Pappas, Pennaeth Cynnwys, S4C.
1:15pm, Dydd Mercher, 21 Medi



Casgliad o ffilmiau yn dangos gwahanol agweddau o hamddena dros y blynyddoedd. I gyd-fynd â arddangosfa Hamdden y Llyfrgell.
1:15pm Dydd Mercher, 23 Tachwedd
Bydd Richard Ranft, Pennaeth Sain a Llun y Llyfrgell Brydeinig yn disgrifio’r amrywiaeth yn eu casgliad o dros 3.5miliwn o recordiadau sain a’u gwasanaeth fideo, eu cadwraeth a sut mae technoleg ddigidol yn gwella’r ffordd mae ymchwilwyr y Llyfrgell yn gallu defnyddio’r adnodd werthfawr yma.
1:15pm, Dydd Gwener, 30 Medi
Dewch i ddysgu mwy am yr Archif gyda teithiau tu ôl i’r llenni, a sinema 8-awr yn y Drwm.
Dydd Mercher, 14 Rhagfyr
Roedd diwedd wythnos diwetha yn gymysgedd od o ddathlu a thristau wrth i ni nodi 10fed penblwydd yr Archif a ffarwelio gyda’n hannwyl bennaeth ar yr un diwrnod. Gorchwyl ola Iestyn oedd torri’r gacen penblwydd, cyn i ni fwynhau ffilm fach gan Anwen a Mark, a fu’n cyfweld nifer o staff y Llyfrgell am hanes Iestyn ar hyd y blynyddoedd, a dangosiad arbennig o’r ffilm gomedi Very Annie Mary gan Sara Sugarman. Cafodd y ffilm ei rhyddhau am y tro cynta yn 2001 felly mae hi yr un oed yn union â’r Archif, ac yn debyg i’n casgliad ni, mae’n cyflwyno portread o fywyd yng Nghymru – un amgen, falle, ond un sy’n llawn hwyl a sbri, ac yn ddewis perffaith ar gyfer yr achlysur.
Wedi’r ffilm daeth pawb at ei gilydd i gyflwyno anrheg i Iestyn, sef ffotograff o Fenis gan un o’i hoff ffotograffwyr, David Gepp. Dim ond arwydd bach oedd hwn o’n gwerthfawrogiad ohono fel person a’r cyfan iddo gyflawni yn ystod gyrfa hir yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn arbennig fel pennaeth cyntaf Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Yma yn yr Archif, rydym yn derbyn ceisiadau am ddelweddau o ffilmiau sydd yn y casgliad yn gyson. Fel arfer, defnydd ar gyfer ddarlledu ar y teledu ydynt. Cwpwl o wythnosau yn ôl, daeth cais i mewn oddi wrth gwmni teledu Cwmni Da, oedd ar ôl delweddau o’r gyfres Joni Jones. Roeddynt yn gweithio ar raglen ‘Lle Aeth Pawb?’ sy’n dilyn hanes yr actorion r’ôl 30 mlynedd.
Cyfarwyddwyd y gyfres gan Stephen Bayley, efo’r actorion Richard Love yn actio rhan Joni Jones a Iola Gregory yn chwarae rhan ei fam.
Gellir gwylio’r rhaglen ‘Lle Aeth Pawb? Joni Jones’, nos Iau ar S4C am 9pm a mae sawl pennod o’r gyfres wych yma o’r 1980au yn cael eu hail-ddarlledu drwy gydol yr wythnos ar slot Aur y sianel.
Hawlfraint llun – S4C