You are here: Adref > Blog

Pa ffordd well o ymlacio a ‘switch-off’ rôl diwrnod prysur yn y gwaith na mynd i chware gêm o golff, cerdded neu falle gwylio ffilm.  O’r tri yma, mae’n siŵr mai gwylio ffilm fyddai’n apelio ata i fwyaf – a dyna pam, mae’n siŵr bo fi’n gweithio yn yr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru!

Ond, yn fy amser sbar, un o’r pethau dwi’n fwynhau ei wneud yw bod yn rhan o gwmni drama lleol – Licris Olsorts.  Dwi’n rhan o’r cwmni ers 7 mlynedd bellach, ac wedi dysgu llawer yn y cyfnod yma.

Yn ystod y flwyddyn diwethaf rwyf wedi cael fy nghymeriadu i actio rhan merch tua 10 oed, yn y ddrama ‘Ni’n Dwy’ gan Nan Lewis.  Mae aml i feirniad adnabyddus wedi rhyfeddu a chanmol fy ngallu i chware’r rôl cystal, a hynny am gyfnod sylweddol ar lwyfan ar fy mhen fy hun, gan siarad gyda tedi bêr!!  Mae’n rhaid bod y darn yn fy siwtio, gan i mi gael cryn dipyn o lwyddiant yn y gwyliau dramau – yr actor gorau dan 30 yn Ngŵyl Ddrama Corwen llynedd, yr actor gorau yn yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd ym Mlaenau Gwent, actor gorau yng Ngŵyl Ddrama Powys yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant eleni ac yna’r actor gorau yng Nhŵyl Ddrama Groeslon.

Dwi ddim yn siŵr be’ mae hyn yn ddeud amdana i fel person, yn actio fel plentyn, ond dwi wedi mwynhau pob munud!

Actor Gorau



Yn ddiweddar fe wnaeth Mr John Davies o’r cwmni Sound Tranfers gysylltu eisiau rhoi casgliad o rils/riliau sain i’r Archif fel rhodd. Ar ôl beth amser yn trefnu manylion a cludiant gan staff yr Archif – fe wnaeth y casgliad gyrraedd y Archif Sgrin a Sain. Roedd y casgliad mewn rhyw ugain o focsus o wahanol maint a pwysau. Roedd ychydig o ddogfennau wedi’u cynnwys ond roedd llawer o’r cynnwys yn estron i mi.  Rhoddwyd y bocsus, dros dro ar silffoedd o dan amodau diogel rhag lleithder a tymheredd iawn yn cell Faraday yr Archif.

Yr wythnos hon – dwi wedi bod yn rhoi trefn i’r casgliad – yn gyntaf yn tynnu’r casgliad o riliau ¼ modfedd allan o’r  bocsis and eu lleoli mewn trefn yn ôl yr lablei ysgrifennedig ar y casis. Fe welwch chi o’r llun – mae’r riliau yma mewn cymysgedd o gasis plastig a “cardboard”.

Dwi ddim yn gwybod lle yr oedd Mr Davies yn cadw’r casgliad yma, ond fel llawer o gasgliadau yr ydem yn ei derbyn roedd yna lwch arnynt ond o leiaf yr oeddent yn sych ac yn lan o unrhyw lwydni ayyb. Y cam nesaf oedd i lenwi llond troli o’r rils ac i’w dechrau rhifo ac mewn amser eu catalogio (mor llawn a phosib o’r nodiadau ar y bocus eu hunain neu o’r darnau o bapurau y tu fawn i’r rils.

Mae’r troli yn y lluniau yn cynnwys y is-gasgliadau yn ôl ei labeli ysgrifennedig AH, AB, PW ac EC.

Gan edrych yn gyflym ar y cloriau – mae’r riliau yn cynnwys cymysgedd o eitemau cerddorol – Ravel, Mahler i dapiau “master” cyfres Adlonni AH – David Brezell, Megan Telini a Watcyn Watcyns.

Y mae’r hanes yma yn nodweddiadol o sut mae’r Archif wedi hel/crynhoi ei chasgliadau dros y blynyddoedd.  Rydym yn croesawu’r casgliadau yma:- i allu diogelu casgliadau sain i genedlaethau y dyfodol i’w fwynhau.

Hoffwn ddiolch i Mr John Davies am yr rhodd yma ac hefyd ei ddiolch am yr waith rhagorol ar rhan yr Archif/Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd.



Eleni, bydd Cynhadledd Cyfrwng yn cael ei gynnal yn yr ATRiuM, Prifysgol Morgannwg yng Nghaerdydd ar y 16eg a’r 17eg o Fehefin. Bwriad Cyfrwng ydy darparu fforwm i gyhoeddi ymchwil a thrafodaeth academaidd sy’n ymwneud â’r cyfryngau, sef ffilm, teledu, y cyfryngau newydd, radio, newyddiaduriaeth, theatr ac astudiaethau perfformio.

Gan fy mod i’n cynrychioli’r Archif ar gyfarfod rheoli Cyfrwng, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y gynhadledd. Y thema ‘leni ydy cyfryngau a diwylliant mewn cenhedloedd bach.

Mae siaradwyr ardderchog wedi’u cadarnhau yn barod, ac yn bersonol, dwi’n edrych ymlaen at y cyfweliad efo Marc Evans a’r trafodaeth am ddyfodol S4C.

Eleni, bydd Darlith Goffa Dave Berry yn cael ei lansio a bydd Chris Williams o Brifysgol Abertawe yn rhoi darlith ar Hwyl a Hiraeth: Richard Burton and Wales. Yn sicr, bydd hwn yn un o uchafbwyntiau’r gynhadledd i fi.

Mae’n bosib cofrestru ar gyfer y Gynhadledd rwan, felly gnewch yn siwr y byddwch yno!

Registration for the conference is now open, so make sure you’re there!



Mi rydw i bellach wedi bod yn Rheolwr newydd yr Archif ers dros mis – ac erbyn hyn, mi rydw i’n cofio cerdded i gyfeiriad fy swyddfa newydd yn y bore! Ond mae’n teimlo’n rhyfedd o hyd i eistedd yn y sedd y bu Iestyn Hughes yn ei llenwi am 10 mlynedd cyntaf yr Archif. Iddo fo, yn anad neb, y mae’r diolch am lwyddiannau’r Archif yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae pawb yma yn dymuno ‘ymddeoliad’ hapus iawn iddo fo.  Ond bu’n brofiad arbennig i mi gael gweithio i’r Archif o’i genedigaeth hyd heddiw. Dwi’n credu y gallwn ni ddweud yn hyderus, bellach, ein bod yn wir sefydliad cenedlaethol.

A dyma ni yn dathlu ein pen-blwydd yn 10 oed, felly, nid yn gymaint trwy edrych yn ôl, ond gan edrych yn syth o’n blaenau ac yn hyderus iawn i’r dyfodol; a phwy a ŵyr pa ddatblygiadau cyffrous a welwn ni yn ystyod y 10 mlynedd nesaf. Beth bynnag fyddan nhw, mi fydd hi’n fraint i mi gael bod yn rhan o’r antur unwaith eto.

I weld pa ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu eleni, mynnwch gip ar wefan yr Archif a’r Llyfrgell.