You are here: Adref > Blog

O bryd i bryd, wrth archwilio ffilmiau dwi’n dod ar draws ambell i rhyfeddod yng nghlwm â’r derbyniadau sydd yn ein gofal.

Wrth pori drwy y rîl 16mm du a gwyn ‘ma ddoe dyma’r pryfyn yma’n ymddangos. Wedi marw ers sbel o’i olwg, druan. Ar y llaw arall, bydd y casgliad yma o ffilmiau ar reilffordd Tal-y-Llyn yn barod i’w trosglwyddo i dâp digidol yn yr wythnosau nesa’.

Er cof



Dros pewnythnos gwyl y Banc mis Mai, aeth yr Archif yn Roc a Rol! Mi gafo ni y syniad o geisio dangos ffilmiau mewn gigs. Felly dros penwythnos Gwyl y Banc, mi atho ni i wyl ‘Nyth’ ym Mar Gwdihŵ, Caerdydd er mwyn rhywfath o ‘tester’ i’r syniad (a gyda llaw os ydych digwydd bod yn Gaerdydd, a teimlo fymryn bach yn sychedig neu yn llwglud, neu hyd yn oed y ddau, ewch i fan hyn! Café/Bar anhygoel o braf).

Sylfaen y clipiau oedd ceisio dangos clipiau adnabyddus o’r ddinas a ceisio dangos sut mae’r ddinas wedi newid dros y blynyddoedd ond hefyd sut mae rhannau wedi aros yr un peth! Asgwrn cefn y clipiau oedd y ffilm ‘Cardiff Capital of Wales’ (193oau), oedd yn cynnwys amryw o glipiau o’r ddinas – o Neuadd y Ddinas, St mary’s street (efo trams!) i ddangos gwaith y Dociau  yn y cyfnod. Yr ail ffilm oedd ‘Taking the Plunge’ ’1968). Ffilm sydd yn dogfennu y ‘Cardiff Empire Pool’, sydd wrth gwrs wedi cael ei ddymchwel erbyn hyn.

Hwyl a sbri a gafwyd yn gyffredinol ac yn benodol. Gwyl hynnod braf, gyda awyrgylch croesawgar a hwylus dros ben. Os nad oeddech yna flwyddyn yma, nodwch  yn y dyddiadur flwyddyn nesaf!!