You are here: Adref > Blog

Ers ddechrau’r flwyddyn mae nifer o ddigwyddiadau a dangosiadau wedi eu cynnal yn y Drwm – amrywiol eitemau er mwyn ceisio plesio bach o bawb.  Os na fuoch yn ffodus i gael tocyn i un o rhain, neu wedi methu dod, mae ein criw technegol yma yn recordio nifer o’r digwyddiadau, ar gof a chadw, ar gyfer y dyfodol.

Os oedd ganddoch ddiddordeb i ddod i’r Archif i wylio un o’r eitemau yma, gallwch cael golwg ar ein catalog ar-lein.  Dewisiwch y cofnod sydd o ddiddordeb, ac yna gwneud cais amdano.  Mi fydd angen 24 awr o rybudd arnom, a gallwch ymweld â’r Archif rhwng 9.30 a 5.00, dydd Llun i ddydd Gwener.

Dyma rhai eitemau sydd wedi bod yn y Drwm yn ddiweddar:

Teithiau Byd Pws’ – Dewi ‘Pws’ Morris yn hel atgofion am y rhaglen ‘Byd Pws’

Margaret Jones – Y Gymraes o Ganaan’ – Eirian Jones yn sôn am hanes y Gymraes a deithiodd o amgylch pum cyfandir yn 19fed ganrif.

Islwyn Ffowc drwy’r Archif’ – Dr T. Robin Chapman sydd wedi ymchwilio archifau ar gyfer hanes yr awdur

Uchafbwyntiau Archif BBC Cymru‘ – Edith Hughes yn cyflwyno rhai o uchafbwyntiau Archif BBC Cymru.



Nos fory, byddaf yn teithio i Aberdaugleddau i ddangos casgliad o ffilmiau William Haggar yn Theatr y Torch. Mae’r dangosiad yma yn ran o ŵyl Ffilm ac Animeiddio Ysgolion Sir Benfro.

Byddwn yn dangos y ffilmiau canlynol:

A desperate poaching affray
The life of Charles Peace
The bathers’ revenge
The maid of Cefn Ydfa
A message from the sea &
The sheep stealer

Bydd cerddor lleol, Mark Jones yn chwarae’r piano ar y noson, i ddarparu cerddoriaeth byw i’r ffilmiau.

Cofiwch alw draw os byddwch yn yr ardal.

Desperate Poaching Affray



Wythnos dwetha, cefais y profiad o fynychu Ysgol Haf RhNgCC (Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru) – a dyna lond ceg! – yn Llanbed. Adran o Lywodraeth Cymru ydyn nhw, a daeth dros 250  o reolwyr o’r sector gyhoeddus yng Nghymru ynghŷd i drafod hanfodion ‘Ymgysylltu’. Bu’n wythnos ddwys iawn o ddysgu, a gobeithio y byddaf yn gallu defnyddio rhai o’r technegau a drafodwyd yn yr ysgol haf yma yn yr Archif dros y misoedd nesaf! Cefais gyfle i ystyried sut reolwr ydw i, a sut y galla i wella ar hynny – a da o beth yw hynny! Rhaid cyfaddef i mi gael y cyfle i drafod gyda chynifer o bobl o sawl maes gwahanol yn werthfawr iawn, a hynny heb y siniciaeth sy’n nodweddu digwyddiadau o’r fath yn aml iawn.

http://wales.gov.uk/psmwsubsite/psmw/?skip=1&lang=cy