You are here: Adref > Blog

Wythnos diwetha cawsom ymweliad gan y ‘Friends of Llangollen Motor Museum’. Fel fydde rhywun yn ei ddisgwyl, fe gyrhaeddon nhw mewn tipyn o steil, ac o bob cwr o Gymru. Clasuron ym myd y ceir oedd eu dileit, ac fe gawson nhw weld un o glasuron yr Archif ar y sgrin fawr yn y Drwm, sef y ffilmo 1950, ‘The Fruitful Year’, cyn cael taith o gwmpas y Llyfrgell. Anelu am adre wedyn, er gwaetha’r gawod o law trwm – a nifer yn eu ceir agored!



A hithau’r fis Awst, mae’r flwyddyn yn fflio heibio! Mae Awst wastad yn fis rhyfedd yma. Er bod llawer o’r staff i ffwrdd ar wyliau, mae’r ymholiadau dal yn llifo fel o pob pen o Brydain.

Yr wythnos yma, dwi wedi bod yn dewis clipiau ffilm i’w dangos yn yr Arddangosfa Hamdden a fydd yn agor yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 1 Hydref, nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd pump sgrin wahanol yn yr arddangosfa, a pob un yn dangos gwahanol agweddau o hamddena yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Hefyd yr wythnos yma, dwi wedi bod yn cadarnhau trefniadau ar gyfer digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn y Drenewydd, fel rhan o broject Estyn Allan y Llyfrgell. Byddwn yn cymryd rhan yn y project yma trwy ddangos ffilm, The Last Days of Dolwyn, yn Sinema’r Regent, Drenewydd ar 20 Hydref. Mae digwyddiadau eraill ar y gweill, a byddwn hefyd yn gweithio gyda Oriel Davies am y tro cynta. Mwy o fanylion am hyn i ddilyn..

Dwi ffwrdd ar wyliau yr wythnos nesa’, felly’n treulio’r wythnos yma yn clirio fy nesg a gorffen tasgau.

Dyma mwy o luniau o’r tê parti a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod. Diolch i Keith Morris am rai ohonynt. (Mwy o wybodaeth am y tê parti ym mhostiad Iwan, isod.)

Dafydd Pritchard welcoming all to the tea party

Arwel Ellis Owen, S4C Chief Executive and NLW Vice President

Arwel Ellis Owen and Dewi Pws

Dafydd Pritchard and Lord Dafydd Elis-Thomas

Rhodri and Mark blowing balloons!

Cup cakes!

Mark, the Archive's head waitor

Wil Aaron enjoying his cup of tea

Everyone enjoying the party



Yr Eisteddfod yn Wrecsam oedd ein cyrchfan ddoe, a digwyddiad ar stondin y Llyfrgell am 3 o’r gloch y pnawn i ddathlu pen-blwydd yr Archif yn 10 oed.

Cyfle i ddefnyddwyr a chefnogwyr (fel Carys, Gwawr a Lowri yn y llun)  i ddod ynghŷd dros baned a chacen a thrafod y prosiectau diweddara sy’ ar y gweill gan bawb – a chael tipyn o hwyl ar yr un pryd!

Cyfle i gyhoeddi hefyd bod S4C ar fin trosglwyddo nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu cynnar  i’n gofal, fel eu bod, yng ngeiriau Arwel Ellis Owen, ar gael i bawb o bobol Cymru. Darllenwch mwy am y stori yma.