Nos Lun a nos Fawrth nesaf, (21 a 22ain o Dachwedd) mi fydd yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, yn helpu Neuadd Dwyfor i ddathlu 100 mlynedd o ddangos ffilmiau ar y safle. Bydd y rhaglen yn wahanol ar y 2 noson – gan ddangos clasuron Cymreig fel Y Chwarelwr (wedi ei hadfer) a’r Etifeddiaeth, uchafbwyntiau o’r ffilm fawr ‘goll’ The Life Story of David Lloyd George (1918) yn dangos y golygfeydd lleol, a hefyd ffilmiau lleol o Bwllheli o 1911 ymlaen – yn cynnwys carnifalau, Eisteddfod, ac awyren gynnar iawn yn mynd … ond ddim ymhell! Bydd y pianydd ffilmiau mud Paul Shallcross yn cyfeilio ar y nos Lun.
Y ddwy sioe yn cychwyn am 7.30. Tocynnau ar gael o Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, Pwllheli – rhif ffon 01758 704088, E-bost – neuadd_dwyfor@gwynedd.gov.uk



