Wrth i ni gyd yn y swyddfa ddechrau ymlacio ac edrych ymlaen am wyliau’r Nadolig, dwi wedi bod yn edrych yn nôl ar rai o ddigwyddiadau’r flwyddyn diwetha’..
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn brysur i ni fel Archif.Dywedsom ‘hwyl fawr’ wrth Iestyn Hughes, cyn bennaeth yr Archif ym mis Mawrth, wrth iddo ymddeol, a dweud ‘helo’ wrth Dafydd Pritchard, ein rheolwr presenol.
Un o’r uchafbwyntiau oedd dathlu ein penblwydd yn 10 oed. Rydym wedi cynnal dangosiadau ar draws Cymru, o Landudno i Gapel Isaac, ac o Aberdaugleddau i’r Drenewydd, ac wedi denu dros fil i’r digwyddiadau yma.
Rydym hefyd wedi gweithio efo myfyrwyr Coleg Ceredigion i greu ffilmiau newydd o’n casgliad ffilmiau amatur, a gwobreuwyd y project efo Marc Ysbrydoli’r Olympiad Ddiwylliannol.
Un o fy uchafbwyntiau personol oedd derbyn ffilmiau’r Gwylliaid Cochion o 1936 a 1938 i’r Archif, a’u dangos i’r gynulleidfa yn Ninas Mawddwy ym mis Medi. Bu’r ffilmiau hyn hefyd yn destun rhaglen Pethe arbennig, a cafwyd ymatebion cadarnhaol iawn am y rhaglen.
Dwi rwan yn edrych ymlaen i groesawu 2012 ac yn meddwl am ffyrdd newydd a chyffrous i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
