Dydd Sadwrn yma (28/01/12) mae drysau y Llyfrgell yn agor ar gyfer diwrnod agored cyntaf 2012! Yn ystod y dydd fydd amryw o ddigwyddiadau, rhai or uchafbwyntiau fydd ffilmiau yn y Drwm, yn cynnwys ffilmiau Pictiwrs y Plant yn y bore a ffilmiau o Aberystwyth yn y 1920au yn y prynhawn. Mi fydd amryw o sgyrsiau difir yn cynnwys Is-Ganghellor Aberystwyth yr Athro Aril McHahon, Will Troughton a sgwrs gyda’r newyddiadiwyr Huw Edwards yn trafod i’w gyfres newydd – ‘The Story of Wales’.
Mi fydd hefyd cyflwyniad i un o gasgliadau sain mwyaf difir yr Archif Sgrin a Sain sef casgliad hanes llafar Llyfrgell Ceredigion. Mae yn gasgliad eang gyda atgofion rhai o gymeriadau fwyaf lliwgar a adnabyddus yr ardal. Ar ol dewis a dethol, daethwyd a rhestr o clipiau sydd yn obeithiol yn dangos amrywiaeth y casgliad. Mae chwech clip sain i gyd yn trafod sawl gwahanol bwnc. Rhai or pynciau y trafodir yw hanes Capel Bangor (gan Mr Tom MacDonald), hanes Penwuch yng nghwmni lliwgar y cymeriad hynnod Dafydd Edwardes. Mi fydd clipiau hefyd gan Evan Jones – yn trafod ei atgofion o ardal Llanfarian, clip yn trafod hanes harbwr Aberystwyth gyda Capten William Ellis, Capten Jack Williams a Mr Howell Ellis, Mrs Katie Morris yn trafod i’w gyrfa fel athrawes a Mrs Lewis, Aberaeron yn trafod Cribyn cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gwledd i’r clustiau y llygaid ac i’r ysfa am wybodaeth! Dewch yn llu!

