Nos Wener, byddwn yn croesawu Dr Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Gregynog a’r pianydd gwych, Simon Crawford-Phillips i’r Drwm. Byddant yn cyflwyno noson i ddathlu cerddoriaeth a bywyd un o’r cerddorion mwyaf llwyddiannus y byd a gynhyrchwyd erioed gan Gymru, ond eto un o’r rhai lleiaf adnabyddus, sef y cyfansoddwr-pianydd dall, Alec Templeton (1909-63).
Er i Alec Templeton gael ei enw ger Caerdydd, symudodd i America yn ystod y 1930au, a daeth yn adnabyddus fel perfformiwr, a mewn dim, roedd yn cyflwyno rhaglen ei hun, It’s Alec Templeton Time! a daeth yn enw cyfarwydd yn America. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, ehangodd ei yrfa i gyfansoddi ar gyfer Broadway a’r diwydiant ffilmac fe’i anrhydeddwyd â seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.
Bydd y stori yn cael ei adrodd gan Rhian Davies, a bydd yn cynnwys enghreifftiau o gyfansoddiadau clasurol, jazz a blues Alec Templeton a’r rhein wedi’u chwarae’n fyw gan Simon Crawford-Phillips, yn ogystal â recordiadau archif o berfformiadau Alec Templeton ei hun.
Rydym bellach wedi derbyn rhai o recordiadau Templeton a ffilmiau ohono, ac fe gaiff rhai ohonynt eu hymgorffori yn y perfformiad hwn.
Mae tocynnau ar gael am £7 o Siop y Llyfrgell neu trwy alw 01970 632 548.
