You are here: Adref > Blog

Nos Iau ddiwetha fe aethom ni ag un o’r ffilmiau comedi Cymreig gorau, sef Valley of Song (Gilbert Gunn, 1953) yn ôl i’r ardal lle y’i ffilmiwyd, sef Capel Isaac a Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Roedd Eglwys Maesteilo dan ei sang, cymaint oedd yr awydd yn lleol i weld y ffilm, a hanes ei ffilmio erbyn hyn yn chwedlonol ymhlith pobol yr ardal.  Daeth sawl person ymlaen ar y diwedd i gyflwyno eu hunain fel y plant drygionus a ymddangosodd ar y sgrin, yn ymladd a chwarae triciau yn sgil yr enghraifft eithafol o gythraul canu sy’n ganolbwynt i’r stori. Wrth lwc doedd dim ôl ohono yn yr eglwys ar noson yr ymweliad – dim ond llond lle o chwerthin a mwynhau.

The crowd waiting for the film to begin



Dydd Iau nesa, 11 Ebrill, mi fyddwn ni’n dangos set o ffilmiau animeiddio i nodi cyfraniad hollbwyisg S4C i’r maes. Bydd yn cynnwys clasur cynnar Joanna Quinn, ‘Nosweth Mas Gyda’r Merched’, sef ffilm gyntaf y cymeriad hoffus, Beryl; ‘Modryb Teigr’, o’r gyfres ryngwladol ‘Chwedlau’r Byd’ ac hefyd  ‘Barbwr Sefil’ o’r gyfres ryngwladol arloesol, ‘Operavox’. Rhywbeth at ddant pawb, a darn o hanes y diwydiant animeiddio yng Nghymru.