Un o fy hoff bleserau wrth weithio gyda’r AGSSC yw fy nyletswyddau yn y Drwm, sef awditoriwm amlgyfryngol wedi iw leoli yma yn y LLGC, sydd a ddigon o le ar gyfer 98 o bobol! Dros yr wythnos ddwythaf cafwyd ddau brif ddigwyddiad, dydd Mawrth roedd Dr Rhidian Griffiths yma i drafod ogof y Llyfrgell Genedlaethol yn ei sgwrs ‘Aladdin’s Cave – The National Library of Wales in World War II’- lle cadwer amryw o luniau a eitemau pwysig eraill o Lundain dros cyfnod y yr ail Rhyfel Byd. Fel yr arfer gan Rhidian (rwyf yn sicir ddylai Dr Rhidian gael slot wythnosol yn y Drwm!) sgwrs hynod addysgiadol hynnod ddifir. Wedyn dydd Mercher roedd yr Athro Phillip Scholfield a Dr Elizabeth Anne New yma i drafod seliau yn ei sgwrs amser cinio ‘Seals and their Context in Medieval Wales and the Marches’. Unwaith eto sgwrs hynnod ddifir am bwnc na wyddom dim amdano cyn! (mae crynhoad ar flog LlGC.
Mae’r Drwm wedi datblygu i fod yn rhan anatod o fywyd y Llyfrgell Genedlaethol, gyda pob math o ddigwyddiadau yn cael ei gynnal – o cyflwyniadau awr ginio, i cynhadleddau, i ddangosiadau ffilm, i lansiad llyfrau i ddigwyddiadau cerddorol o bob math. Os yr ydych wedi methu rhai or digwyddiadau yma, efallai eich bod yn darllen hwn ac yn teimlo ‘Damia! Fyswn ni wedi licio gwel y cyflwyniad dydd mawrth neu/ag cyflwyniad dydd mercher’, neu wedi methu Dr Meredydd Evans yn canu, neu wedi methu gig diwethaf Meic Stevens, neu fysa chi wedi hoffi gweld lansiad llyfr cofiant y diweddar Huw T Edwards ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’ neu Jan Morris yn trafod pleserau y teithiwr, neu Elisabeth Luard yn trafod iw llyfr ‘A Cook’s Year in a Welsh Farmhouse’ neu hyd yn oed lansiad cyfeithiad Saesneg llyfr Yann Fouéré ‘La Maison in Canemara: The History of a Breton’ - na phoener o gwbwl! Mae’r rhan helath o ddigwyddiadau y Drwm yn cael ei recordio gan yr AGSSC ac ar gael iw gweld yma yn yr AGSSC! Rydym hefyd yn uwch lwytho rhai o darnau gorau safle we YouTube y Llyfrgell.
Ond fel yr ydym i gyd yn gwbod, does dim yn curo bwrlw ag awyrgylch digwyddiad byw. Felly yn fuan, mae ganddynt gerddoriaeth byw – mae’r canwr poblogaidd Gareth Bonello (the Gentle Good) yma ar y 27fed o Chwefror, mae Carwyn Tywyn yma gydai delyn ar y 26ed o Fehefin. Mae dangosiadau ffilm, gyda ‘A Run For Your Money’ (1949) (ffilm gomedi am anturiaethau dau lowr diniwed yn mynd i Lundain i weld gem rygbi Cymru yn erbyn Lloegr!), ar y 18fed o Orffenaf mae dangosiad ‘Goreunon Chwaeraeon S4C’ gyda dangosiad o ‘Orig’ (1986) yn dilyn yn y reslwr enwog Orig Williams (El Bandito) a ‘Dyrnau Celtaidd’ (1997) yn dilyn cyfraniad y cenhedloedd Celtaidd at fyd bocsio. Dim ond detholiad bach iawn yw rhain. Mae ddigonedd yma at ddant pawb! Mae gwybodaeth am y digwyddiadau yma ar gael ar we fan y LlGC neu yn rhaglen y LLGC. Rwyf yn edrych ymlaen i’ch gweld yn fuan!
