‘Agor Drysau’ yn y Drwm

Jerry the TykeMae Arad Goch wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer 7fed Gwyl AGOR DRYSAU – OPENING DOORS, ac am y tro cyntaf bydd dangosiad o ffilm yn cael ei chynnal yn ystod yr Wyl.

Bydd ffilmiau Jerry the Tyke, ffilmiau animeiddio hynnaf Cymru, yn cael eu dangos yn y Drwm, yma yn y Llyfrgell. Bydd pedwar dangosiad o’r ffilmiau yma yn ystod yr Wyl, a hynny gyda pherfformiad o drac sain newydd sbon sydd wedi ei gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y ffilmiau gan Artist Preswyl Arad Goch, Simon Lovatt.

Bydd Simon yn defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i berfformio a chymysgu’r trac sain yn fyw ar y llwyfan o flaen y sgrin fawr, bydd yn dipyn o ‘spactacle’ wrth i Simon ddefnyddio pob math o sain i liwio’r stori a dod a’r ffilm yn fyw i’r gynulleidfa – llais, tegannau plant, offerynnau ac effeithiau sain doniol.

Bydd y profiad yn un unigryw a hwyliog iawn ac mae’n addas i bawb o bob oedran. Mae tocynnau eisioes wedi diflannu ar gyfer y performiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos ond mae tocynnau ar ol ar gyfer y perfformiad bore Sadwrn am 10.30 ar y 24ain yma yn y Drwm.

Pris tocyn yw £3.50 i blant a £5.00 i oedloion, ond gallwn gynnig gistyngiad i fyfyrwyr a grwpiau. Gellir archebu tocynnau trwy ffonio Arad Goch ar 01970 617 998.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau’r ŵyl ar gael ar wefan Agor Drysau.