‘Cyfoeth, angerdd ac afiaith’ oedd prif nodweddion yr actor o Fôn, Hugh Griffith, yn ôl ysgrif goffa Michael Billington yn y Guardian, a dyna oedd yr argraff a roddodd Hywel Gwynfryn yn y Drwm amser cinio ddoe, yn ei gyflwyniad, ‘Yr Arab o Fôn – a fi’. Cyfeiria’r teitl at y cymeriad, Sheik Ilderim, yn y ffilm, ‘Ben Hur’ – rhan a enillodd Oscar i’r actor.
Wrth ddarllen o’i gofiant, ‘Hugh Griffith’, sydd wedi ei ysgrifennu fel petai gan yr actor ei hun, llwyddodd Hywel i gyfleu y cyfoeth, yr angerdd a’r afiaith, gyda chymorth clipiau o’r Archif o rai o’i berfformiadau mwyaf enwog, gan gynnwys ei ddehongliad nodedig o’r Brenin Llŷr mewn recordiad prin o’r cynhyrchiad radio ym 1949.
Yn y llun gwelir Hywel yn sgwrsio wedi’r digwyddiad â Dafydd, Pennaeth yr Archif, a Bethan Miles, nith Hugh Griffith.

