Nos Iau ddiwetha fe aethom ni ag un o’r ffilmiau comedi Cymreig gorau, sef Valley of Song (Gilbert Gunn, 1953) yn ôl i’r ardal lle y’i ffilmiwyd, sef Capel Isaac a Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Roedd Eglwys Maesteilo dan ei sang, cymaint oedd yr awydd yn lleol i weld y ffilm, a hanes ei ffilmio erbyn hyn yn chwedlonol ymhlith pobol yr ardal. Daeth sawl person ymlaen ar y diwedd i gyflwyno eu hunain fel y plant drygionus a ymddangosodd ar y sgrin, yn ymladd a chwarae triciau yn sgil yr enghraifft eithafol o gythraul canu sy’n ganolbwynt i’r stori. Wrth lwc doedd dim ôl ohono yn yr eglwys ar noson yr ymweliad – dim ond llond lle o chwerthin a mwynhau.

