Archif ITV

Ar nos Fercher, 13 Mehefin, yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd cynhaliwyd derbyniad arbennig i nodi’r cytundeb i  drosglwyddo Archif ffilm a fideo ITV Cymru i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Aberystwyth.

Yng nghwmni’r Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Syr Deian Hopkin, Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion ITV Cymru ac Andrew Green, y Llyfrgellydd Cenedlaethol, roedd croeso mawr i’r syniad o allu cynnig mynediad cyhoeddus i un o archifau teledu mwyaf cynhwysfawr Ewrop.

Darllenwch ddatganiad swyddogol y Llyfrgell

http://tinyurl.com/d2dnm4y