Cyfweliad Radio gyda Rhys Mwyn

Yn y misoedd diwethaf dwi wedi cael fy nghyfweld a chynnwys ar gyfer sawl rhaglen radio a theledu, yn trafod fy swydd yn yr Archif. Y gobaith yw bod y cyfweliadau yn creu cyhoeddusrwydd i’r Archif o fewn Cymru ac yn rhoi hyder i mi siarad yn gyhoeddus.

Yr wythnos nesaf byddaf yn cael fy nghyfweld eto, y tro hwn gan arwr, ffrind, gyd-casglwr a fryfrydwr am y Sin Roc Gymraeg; Rhys Mwyn. Bydd Rhys a’i gynhyrchydd yn ymweld a’r Archif prynhawn Llun nesaf, i siarad am yr Archif a’r polisi casglu, fel rhan o daith Rhys o amgylch Cymru yn edrych ar sut mae gwahanol ardaloedd wedi cyfranu at y sin gerddoriaeth yn y gorffennol ac y presennol.

Yn nhŷ tafarn Yr Angel, yn Aberystwyth ym mis Mawrth 1990, wnes i gyfarfod Rhys am y tro cyntaf. Ar y pryd yr oedd yn chwarae yn ei grŵp Yr Anrhefn. Yr oeddent ar fin rhyddhau ei sengl Rhedeg i Paris. Ers hynny, pan fyddwn yn cwrdd, byddwn yn sgwrsio am gerddoriaeth, diwylliant tan-ddaearol Cymru a bywyd yn gyffredinol.

Edrychaf ymlaen i groesawu Rhys i’r Archif, oherwydd y mae wedi rhoi sawl, sawl eitem i ni dros y blynyddoedd ac yn bwynt cyswllt gwerthfawr iawn am wybodaeth a chysylltiadau eraill.

Bydd y rhaglen yn debygol o gael ei ddarlledu ar Radio Cymru nos Fercher yr 7fed o Orffennaf.