Gyda’r Eisteddfod yn dod i ben, bydd Seremoni’r Cadeirio yn cael ei ddangos yn y Drwm p’nawn ‘ma am 4:30. Eto eleni, bydd criw o fyfyrwyr Cymraeg i Oedolion WLPAN o Brifysgol Aberystwyth yn bresenol. Mae ennill y Gader yn un o’r anrhydeddau mwyaf i fardd Cymreig.
Rydym yn dathlu anrhydedd arall yn yr Archif. Dydd Llun, ennillodd Catrin Jenkins, Swyddog Gweinyddol yr Archif wobr am yr Actor Gorau yn y gystadleuaeth Drama. Mae Catrin yn ran o Gwmni Drama Licris Olsorts. Da iawn ti Catrin!
