Heddiw yw diwrnod “gwneud y pethau bychain”, yn y Gymraeg, ar y we.
Draw yma yn yr Archif Sgrin a Sain, rydym yn gwneud y “pethau bychain” yn gyson drwy gyfrwng ein blog a’n trydar ( @agssc ), er mwyn ceisio rhoi blas i chi o’n gwaith wrth i ni geisio “diogelu a dathlu ein etifeddiaeth sain a delweddau symudol”.
Mae’r wefan ddwyieithog “newydd” bellach yn fyw ers rhyw wyth mis, ac mae’r ymateb ar y cyfan wedi bod yn ffafriol dros ben, a chafwyd dros 360,000 o ymweliadau â’r safle yn y cyfnod hwnnw.
Ein modd o gyflwyno gwybodaeth gyfredol am ein gwaith yw’r system flogio, sy’n rhan anatod o’n gwasanaeth dros y we. Llwythwyd dros chwe deg o bostiadau gennym, a gobeithio eu bod yn cyflwyno blas ar yr agweddau gwahanol o’n gwaith, o gasglu eitemau, eu diogelu, eu catalogio, a’u gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr pell ac agos.
Mae llawer o bethau bychain yn adeiladu i greu rhywbeth mwy. Ac rwy’n mawr obeithio bod ein camau bach ni yn yr Archif Sgrin a Sain dros y naw mlynedd diwethaf wedi creu rhywbeth sylweddol, arwyddocaol a pharhaol i Gymru. Rhywbeth y gallem oll ymfalchïo ynddo.
Tags: pethaubychain

