Ar hyn o bryd, dwi’n archwilio a throsglwyddo casgliad o ffilmiau lliw/du a gwyn 8mm. Mae tua 50 o rîls yn ran o’r casgliad teuluol ‘ma ac mae cael gwylio’r deunydd yn rhoi gwefr i mi am eu bod yn dangos byd preifat a fu, sydd heb eu gweld ers degawdau. Hyd yn hyn, mae’r ffilmiau yn dyddio o’r 1950au/60au cynnar.
Mae dipyn o lwydni ar sawl rîl felly bu rhaid gwisgo masg gwyneb wrth archwilio cyn eu glanhau efo llaw yn defnyddio’r cemegyn perchloroethylene cyn eu trosglwyddo i dâp digidol.
Hyd yn hyn, mae’r ffilmiau yn dangos dipyn o ardal Aberystwyth. Mae hyn yn cynnwys codi lloeren ar fast darlledu Blaenplwyf efo siots o frig y mast!, deunydd o Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhalwyd yn Aberystwyth yn 1952 yn ogystal a deunydd o gychod yn yr harbwr.
Unwaith bydd y rîls ‘ma wedi’u trosglywddo i dâp digidol, bydd yr adneuwr yn derbyn copi ar DVD a bydd yna gopi arall ar gael i’w wylio yn ‘Stafell Wylio yr Archif. Dylai’r teitlau yma bod yn barod i’w gwylio yn mis Rhagfyr.

