Brechdan pryfyn

O bryd i bryd, wrth archwilio ffilmiau dwi’n dod ar draws ambell i rhyfeddod yng nghlwm â’r derbyniadau sydd yn ein gofal.

Wrth pori drwy y rîl 16mm du a gwyn ‘ma ddoe dyma’r pryfyn yma’n ymddangos. Wedi marw ers sbel o’i olwg, druan. Ar y llaw arall, bydd y casgliad yma o ffilmiau ar reilffordd Tal-y-Llyn yn barod i’w trosglwyddo i dâp digidol yn yr wythnosau nesa’.

Er cof